SL(5)320 – Rheoliadau’r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) (Diwygio) (Cymru) 2019
Cefndir a Phwrpas
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau’r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) 1992 (O.S. 1992/613) (“Rheoliadau 1992”).
Mae rheoliad 2 yn gwneud diwygiadau i Reoliadau 1992 i ddileu pŵer awdurdodau bilio yng Nghymru i wneud cais i lys ynadon am ddyroddi gwarant i draddodi dyledwr treth gyngor i garchar. Mae rheoliad 3 yn gwneud darpariaeth drosiannol.
Gweithdrefn
Negyddol
Craffu Technegol
Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.
Craffu ar rinweddau
Nodwyd y pwynt canlynol i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.3 (ii) mewn perthynas â’r offeryn hwn - ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu e fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Cynulliad.
Y goblygiadau yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd
Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn.
Ymateb y Llywodraeth
Nid oes angen ymateb gan y Llywodraeth.
Cynghorwyr Cyfreithiol
Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
15 Chwefror 2019